Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (264)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Nodi'r Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop – gweithio gyda a chefnogi ein cymuned Lluoedd Arfog heddiw (30 munud) |
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Llysgenhadon Cyllid yr UE - Gohirwyd tan 19 Mai |
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Cyflwyno Bil yr Amgylchedd (Cymru) (60 munud) |
6 Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2015 (15 munud) NDM5754 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2015.
Dogfennau Ategol Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
7 Dadl Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu (60 munud) NDM5753 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu, fframwaith tan 2020 ar gyfer GIG Cymru i wella gwasanaethau clefyd yr afu.
Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu i’w weld yn:
http://gov.wales/topics/health/nhswales/plans/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith y gallai'r broses o gyflwyno cynllun cyflenwi clefyd yr iau gael ei llesteirio gan yr heriau ariannol y mae byrddau iechyd lleol yn eu hwynebu o ganlyniad i'r toriadau cyllidebol mwyaf erioed gan Lywodraeth Cymru.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi prisiau uned sylfaenol ar gyfer alcohol ar waith cyn gynted ag y bo modd.
|
8 Cyfnod pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 13 Mai 2015